Job 26

Job yn torri ar ei draws: Mae Duw mor fawr

1A dyma Job yn ateb:

2“O, ti'n gymaint o help i'r gwan!
Ti wedi cynnal braich yr un sydd heb nerth!
3Mae dy gyngor mor werthfawr i rywun sydd mor ddwl!
Ti wedi bod mor hael yn rhannu dy ddoethineb!
4Pwy wnaeth ddysgu hyn i gyd i ti?
Pwy sy'n dy ysbrydoli i siarad fel yma?
5Mae'r meirw yn crynu o flaen Duw –
pawb sy'n byw yn y byd dan y dŵr.
6Mae Annwn
26:6 Annwn Hebraeg,  Sheol, sef “y byd tanddaearol ble mae'r meirw yn mynd”
yn noeth o'i flaen,
ac Abadon
26:6 Abadon sef "lle dinistr"
heb orchudd i'w guddio.
7Duw sy'n lledu'r sêr dros yr anhrefn,
ac yn hongian y ddaear uwch y gwagle.
8Mae'n rhwymo'r dŵr yn ei gymylau trwchus,
ond does yr un yn byrstio dan y pwysau.
9Mae'n cuddio wyneb y lleuad llawn
drwy ledu ei gymylau drosto.
10Mae'n marcio'r gorwel ar wyneb y moroedd,
fel terfyn rhwng y golau a'r tywyllwch.
11Mae colofnau'r nefoedd yn crynu,
wedi eu dychryn gan ei gerydd.
12Mae'n gallu tawelu'r môr;
trawodd fwystfil y môr
26:12 fwystfil y môr Hebraeg,  Rahab.
i lawr drwy ei ddoethineb.
13Mae ei wynt yn clirio'r awyr;
trywanodd y sarff wibiog â'i law.
14A dydy hyn prin yn cyffwrdd ei allu! –
mae fel rhyw sibrydiad bach tawel.
Pwy all ddychmygu holl rym ei nerth?”
Copyright information for CYM